Add parallel Print Page Options

52 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan. Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y’ch gwaredir. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos. Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr Arglwydd, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr Arglwydd; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw. Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.

Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu. Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’r llef y cydganant: canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion.

Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerwsalem: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerwsalem. 10 Diosgodd yr Arglwydd fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.

11 Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd. 12 Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr Arglwydd a â o’ch blaen chwi, a Duw Israel a’ch casgl chwi.

13 Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn. 14 Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt, (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a’i bryd yn anad meibion dynion,) 15 Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.