Add parallel Print Page Options

50 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam. Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele, â’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt. Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.

Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl. Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.

Oherwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. Wele, yr Arglwydd Dduw a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.

10 Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr Arglwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw. 11 Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.