Add parallel Print Page Options

11 Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau. A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt. A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.

10 Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant. 11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. 12 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd, ac a gynnull grwydraid Israel, ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear. 13 Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim. 14 Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin; ynghyd yr ysbeiliant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufudd‐dod iddynt. 15 Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a’i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droetsych. 16 A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Asyria, megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft.