Add parallel Print Page Options

47 Disgyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus. Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd. Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf. Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel. Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.

Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.

A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi. Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd. Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.

10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ddoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi. 11 Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti. 12 Saf yn awr gyda’th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus. 13 Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat. 14 Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a’u llysg hwynt; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam: ni bydd marworyn i ymdwymo, na thân i eistedd ar ei gyfer. 15 Felly y byddant hwy i ti gyda’r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei duedd; nid oes un yn dy achub di.

The Fall of Babylon

47 “Go down, sit in the dust,(A)
    Virgin Daughter(B) Babylon;
sit on the ground without a throne,
    queen city of the Babylonians.[a](C)
No more will you be called
    tender or delicate.(D)
Take millstones(E) and grind(F) flour;
    take off your veil.(G)
Lift up your skirts,(H) bare your legs,
    and wade through the streams.
Your nakedness(I) will be exposed
    and your shame(J) uncovered.
I will take vengeance;(K)
    I will spare no one.(L)

Our Redeemer(M)—the Lord Almighty(N) is his name(O)
    is the Holy One(P) of Israel.

“Sit in silence,(Q) go into darkness,(R)
    queen city of the Babylonians;(S)
no more will you be called
    queen(T) of kingdoms.(U)
I was angry(V) with my people
    and desecrated my inheritance;(W)
I gave them into your hand,(X)
    and you showed them no mercy.(Y)
Even on the aged
    you laid a very heavy yoke.
You said, ‘I am forever(Z)
    the eternal queen!’(AA)
But you did not consider these things
    or reflect(AB) on what might happen.(AC)

“Now then, listen, you lover of pleasure,
    lounging in your security(AD)
and saying to yourself,
    ‘I am, and there is none besides me.(AE)
I will never be a widow(AF)
    or suffer the loss of children.’
Both of these will overtake you
    in a moment,(AG) on a single day:
    loss of children(AH) and widowhood.(AI)
They will come upon you in full measure,
    in spite of your many sorceries(AJ)
    and all your potent spells.(AK)
10 You have trusted(AL) in your wickedness
    and have said, ‘No one sees me.’(AM)
Your wisdom(AN) and knowledge mislead(AO) you
    when you say to yourself,
    ‘I am, and there is none besides me.’
11 Disaster(AP) will come upon you,
    and you will not know how to conjure it away.
A calamity will fall upon you
    that you cannot ward off with a ransom;
a catastrophe you cannot foresee
    will suddenly(AQ) come upon you.

12 “Keep on, then, with your magic spells
    and with your many sorceries,(AR)
    which you have labored at since childhood.
Perhaps you will succeed,
    perhaps you will cause terror.
13 All the counsel you have received has only worn you out!(AS)
    Let your astrologers(AT) come forward,
those stargazers who make predictions month by month,
    let them save(AU) you from what is coming upon you.
14 Surely they are like stubble;(AV)
    the fire(AW) will burn them up.
They cannot even save themselves
    from the power of the flame.(AX)
These are not coals for warmth;
    this is not a fire to sit by.
15 That is all they are to you—
    these you have dealt with
    and labored(AY) with since childhood.
All of them go on in their error;
    there is not one that can save(AZ) you.

Footnotes

  1. Isaiah 47:1 Or Chaldeans; also in verse 5