Add parallel Print Page Options

44 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â’i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a’i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi. Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a’r pethau a ddaw. Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.

Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt. 10 Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles? 11 Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant. 12 Y gof â’r efel a weithia yn y glo, ac a’i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a’i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio. 13 Y saer pren a estyn ei linyn; efe a’i llunia hi wrth linyn coch; efe a’i cymhwysa hi â bwyeill, ac a’i gweithia wrth gwmpas, ac a’i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ. 14 Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a’r glaw a’i maetha. 15 Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a’i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a’i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo. 16 Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, Aha, ymdwymais, gwelais dân. 17 A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt. 18 Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, a’u calonnau rhag deall. 19 Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth? a ymgrymaf i foncyff o bren? 20 Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a’i gwyrdrôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?

21 Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf. 22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a’th bechodau fel niwl: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di. 23 Cenwch, nefoedd: canys yr Arglwydd a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe. 24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy Waredydd, a’r hwn a’th luniodd o’r groth, Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun: 25 Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: 26 Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau: 27 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd: 28 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfaenir.