Add parallel Print Page Options

29 Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth. Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel. A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn, ac a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn. A thi a ostyngir; o’r ddaear y lleferi, ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr, a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch. A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg. Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân ysol.

Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni. Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.

Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn. 10 Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a’ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe. 11 A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef. 12 Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.

13 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau, ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion; 14 Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. 15 Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a’n gwêl ni? a phwy a’n hedwyn? 16 Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni’m gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd, Nid yw ddeallus? 17 Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a’r doldir a gyfrifir yn goed?

18 A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch. 19 A’r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel. 20 Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith; 21 Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. 23 Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o’i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel. 24 A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg.