Add parallel Print Page Options

A bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched mis, ar y pumed dydd o’r mis, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law yr Arglwydd Dduw arnaf yno. Yna yr edrychais, ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân; o welediad ei lwynau ac isod, yn dân; ac o’i lwynau ac uchod, fel gwelediad disgleirdeb, megis lliw ambr. Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd, ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau Duw, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd. Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.

Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua’r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd‐dra mwy.

Ac efe a’m dug i ddrws y cyntedd; a phan edrychais, wele dwll yn y pared. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cloddia yn y pared: a phan gloddiais yn y pared, wele ddrws. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos i mewn, ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma. 10 Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch: 11 A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un â’i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu. 12 Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr Arglwydd yn ein gweled; gadawodd yr Arglwydd y ddaear.

13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Tro eto, cei weled ffieidd‐dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur. 14 Ac efe a’m dug i ddrws porth tŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd tua’r gogledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.

15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? dychwel eto, cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn. 16 Ac efe a’m dug i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a’u cefnau tuag at deml yr Arglwydd, a’u hwynebau tua’r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i’r haul tua’r dwyrain.

17 Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd‐dra a wnânt yma? canys llanwasant y tir â thrais, a gwrthdroesant i’m cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn. 18 Minnau hefyd a wnaf mewn llid: nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel, ni wrandawaf hwynt.