Add parallel Print Page Options

47 Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua’r dwyrain: oherwydd wyneb y tŷ oedd tua’r dwyrain; a’r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i’r allor. Ac efe a’m dug i ar hyd ffordd y porth tua’r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua’r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau. A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â’r llinyn yn ei law allan tua’r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a’m tywysodd i trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y fferau. Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwodd; a’r dyfroedd hyd y lwynau: Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.

Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y’m tywysodd, ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon. Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o’r tu yma ac o’r tu acw. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i’r gwastad, ac a ânt i’r môr: ac wedi eu myned i’r môr, yr iacheir y dyfroedd. A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw. 10 A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn. 11 Ei lleoedd lleidiog a’i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt. 12 Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o’r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a’i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o’r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a’i ddalen yn feddyginiaeth.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau. 14 Hefyd chwi a’i hetifeddwch ef, bob un cystal â’i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i’ch tadau: a’r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth. 15 A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o’r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad: 16 Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran. 17 A’r terfyn o’r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a’r gogledd tua’r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd. 18 Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o’r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain. 19 A’r ystlys deau tua’r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman. 20 A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o’r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin. 21 Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.

22 Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i’r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. 23 A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.