Add parallel Print Page Options

27 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus; A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch. Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti. Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim. Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do. Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o’th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr. Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad. 10 Y Persiaid, a’r Ludiaid, a’r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch. 11 Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a’r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch. 12 Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau. 13 Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres. 14 Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod. 15 Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti. 16 Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau. 17 Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl. 18 Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn. 19 Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a’r calamus, oedd yn dy farchnad. 20 Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau. 21 Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion. 22 Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur. 23 Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi. 24 Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth. 25 Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.

26 Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng nghanol y moroedd. 27 Dy olud, a’th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a’th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a’th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di. 28 Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant. 29 Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o’u llongau, ar y tir y safant; 30 A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw. 31 A hwy a’u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon. 32 A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr! 33 Pan ddelai dy farchnadaeth o’r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a’th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear. 34 Y pryd y’th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a’th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol. 35 Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat, a’u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau. 36 Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat: dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.