Add parallel Print Page Options

46 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer. A’r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a’r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a’i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a â allan: a’r porth ni chaeir hyd yr hwyr. Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr Arglwydd. A’r offrwm poeth a offrymo y tywysog i’r Arglwydd ar y dydd Saboth, fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl: A bwyd‐offrwm o effa gyda’r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda’r ŵyn, a hin o olew gyda’r effa. Ac ar ddydd y newyddloer, bustach ieuanc perffaith‐gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd; perffaith‐gwbl fyddant. Ac efe a ddarpara effa gyda’r bustach, ac effa gyda’r hwrdd, yn fwyd‐offrwm; a chyda’r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa. A phan ddelo y tywysog i mewn, ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr â allan.

A phan ddelo pobl y tir o flaen yr Arglwydd ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a’r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer. 10 A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan. 11 Ac ar y gwyliau a’r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda’r ŵyn, a hin o olew gyda’r effa. 12 A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i’r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a’i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan. 13 Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i’r Arglwydd beunydd: o fore i fore y darperi ef. 14 Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol byth. 15 Fel hyn y darparant yr oen, a’r bwyd‐offrwm, a’r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Os rhydd y tywysog rodd i neb o’i feibion o’i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth. 17 Ond pan roddo efe rodd o’i etifeddiaeth i un o’i weision, bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i’r tywysog: eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy. 18 Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, i’w gorthrymu hwynt allan o’u perchenogaeth; eithr rhodded etifeddiaeth i’w feibion o’i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o’i berchenogaeth.

19 Ac efe a’m dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua’r gogledd: ac wele yno le ar y ddau ystlys tua’r gorllewin. 20 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a’r pech‐aberth, a lle y pobant y bwyd‐offrwm; fel na ddygont hwynt i’r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl. 21 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac a’m tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congl i’r cyntedd. 22 Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair. 23 Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch. 24 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dŷ y cogau, lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl.