Add parallel Print Page Options

39 Proffwyda hefyd, fab dyn, yn erbyn Gog, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal. A mi a’th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a’th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd, ac a’th ddygaf ar fynyddoedd Israel: Ac a drawaf dy fwa o’th law aswy, a gwnaf i’th saethau syrthio o’th law ddeau. Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a’th holl fyddinoedd, a’r bobloedd sydd gyda thi: i’r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y’th roddaf i’th ddifa. Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw. Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd. Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy: a’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, y Sanct yn Israel.

Wele, efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd Dduw; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais. A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a’r darian a’r astalch, y bwa a’r saethau, a’r llawffon a’r waywffon; ie, losgant hwynt yn tân saith mlynedd. 10 Ac ni ddygant goed o’r maes, ac ni thorrant ddim o’r coedydd; canys â’r arfau y cyneuant dân: a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd Dduw.

11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a’i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog. 12 A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir. 13 Ie, holl bobl y tir a’u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y’m gogonedder, medd yr Arglwydd Dduw. 14 A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda’r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i’w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant. 15 A’r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog. 16 Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.

17 Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed. 18 Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oll. 19 Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o’m haberth a aberthais i chwi. 20 Felly y’ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw. 21 A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw yr hon a osodais arnynt. 22 A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan.

23 Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf. 24 Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt. 25 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd; 26 Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd. 27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer; 28 Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno. 29 Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.