Add parallel Print Page Options

Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych, bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth dŷ Israel. Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwyta’r llyfr hwnnw. Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â’r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.

Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â’m geiriau wrthynt. Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y’th anfonir di, ond at dŷ Israel; Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y’th anfonaswn atynt? Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel. Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a’th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt. Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na’r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. 10 Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â’th galon, a chlyw â’th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt. 11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio. 12 Yna yr ysbryd a’m cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le. 13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr. 14 A’r ysbryd a’m cyfododd, ac a’m cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.

15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt. 16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17 Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. 18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. 19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid. 20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di. 21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o’r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.

22 Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i’r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt. 23 Yna y cyfodais, ac yr euthum i’r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 24 Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthyf, Dos, a chae arnat o fewn dy dŷ. 25 Tithau fab dyn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a’th rwymant â hwynt, ac na ddos allan yn eu plith. 26 A mi a wnaf i’th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt. 27 Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a’r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.

And he said to me, “Son of man, eat what is before you, eat this scroll; then go and speak to the people of Israel.” So I opened my mouth, and he gave me the scroll to eat.

Then he said to me, “Son of man, eat this scroll I am giving you and fill your stomach with it.” So I ate(A) it, and it tasted as sweet as honey(B) in my mouth.

He then said to me: “Son of man, go now to the people of Israel and speak my words to them.(C) You are not being sent to a people of obscure speech and strange language,(D) but to the people of Israel— not to many peoples of obscure speech and strange language, whose words you cannot understand. Surely if I had sent you to them, they would have listened to you.(E) But the people of Israel are not willing to listen(F) to you because they are not willing to listen to me, for all the Israelites are hardened and obstinate.(G) But I will make you as unyielding and hardened as they are.(H) I will make your forehead(I) like the hardest stone, harder than flint.(J) Do not be afraid of them or terrified by them, though they are a rebellious people.(K)

10 And he said to me, “Son of man, listen carefully and take to heart(L) all the words I speak to you. 11 Go(M) now to your people in exile and speak to them. Say to them, ‘This is what the Sovereign Lord says,’(N) whether they listen or fail to listen.(O)

12 Then the Spirit lifted me up,(P) and I heard behind me a loud rumbling sound as the glory of the Lord rose from the place where it was standing.[a] 13 It was the sound of the wings of the living creatures(Q) brushing against each other and the sound of the wheels beside them, a loud rumbling sound.(R) 14 The Spirit(S) then lifted me up(T) and took me away, and I went in bitterness and in the anger of my spirit, with the strong hand of the Lord(U) on me. 15 I came to the exiles who lived at Tel Aviv near the Kebar River.(V) And there, where they were living, I sat among them for seven days(W)—deeply distressed.

Ezekiel’s Task as Watchman

16 At the end of seven days the word of the Lord came to me:(X) 17 “Son of man, I have made you a watchman(Y) for the people of Israel; so hear the word I speak and give them warning from me.(Z) 18 When I say to a wicked person, ‘You will surely die,(AA)’ and you do not warn them or speak out to dissuade them from their evil ways in order to save their life, that wicked person will die for[b] their sin, and I will hold you accountable for their blood.(AB) 19 But if you do warn the wicked person and they do not turn(AC) from their wickedness(AD) or from their evil ways, they will die(AE) for their sin; but you will have saved yourself.(AF)

20 “Again, when a righteous person turns(AG) from their righteousness and does evil, and I put a stumbling block(AH) before them, they will die. Since you did not warn them, they will die for their sin. The righteous things that person did will not be remembered, and I will hold you accountable for their blood.(AI) 21 But if you do warn the righteous person not to sin and they do not sin, they will surely live because they took warning, and you will have saved yourself.(AJ)

22 The hand of the Lord(AK) was on me there, and he said to me, “Get up and go(AL) out to the plain,(AM) and there I will speak to you.” 23 So I got up and went out to the plain. And the glory of the Lord was standing there, like the glory I had seen by the Kebar River,(AN) and I fell facedown.(AO)

24 Then the Spirit came into me and raised me(AP) to my feet. He spoke to me and said: “Go, shut yourself inside your house.(AQ) 25 And you, son of man, they will tie with ropes; you will be bound so that you cannot go out among the people.(AR) 26 I will make your tongue stick to the roof(AS) of your mouth so that you will be silent and unable to rebuke them, for they are a rebellious people.(AT) 27 But when I speak to you, I will open your mouth and you shall say to them, ‘This is what the Sovereign Lord says.’(AU) Whoever will listen let them listen, and whoever will refuse let them refuse; for they are a rebellious people.(AV)

Footnotes

  1. Ezekiel 3:12 Probable reading of the original Hebrew text; Masoretic Text sound—may the glory of the Lord be praised from his place
  2. Ezekiel 3:18 Or in; also in verses 19 and 20