Add parallel Print Page Options

12 A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Trigo yr wyt ti, fab dyn, yng nghanol tŷ gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt. A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt; ie, muda o’th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar. A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud. Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw. Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y’th roddais i dŷ Israel. Ac mi a wneuthum felly fel y’m gorchmynnwyd: dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â’m llaw: yn y tywyll y dygais allan, ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt.

A’r bore y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, oni ddywedodd tŷ Israel, y tŷ gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur? 10 Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, I’r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg. 11 Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed. 12 A’r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a â allan: cloddiant trwy y mur, i ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â’i lygaid. 13 A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef i Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wêl efe hi, eto yno y bydd efe farw. 14 A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i’w gynorthwyo, a’i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt. 15 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a’u taenu ar hyd y gwledydd. 16 Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd.

17 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal: 19 A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a’u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi. 20 A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a’r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.

21 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 22 Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth? 23 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth. 24 Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel. 25 Canys myfi yw yr Arglwydd: mi a lefaraf, a’r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a’i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.

26 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 27 Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell. 28 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid oedir dim o’m geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.