Add parallel Print Page Options

Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o’r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw. Yn y pumed dydd o’r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin, Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef.

Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb. 10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. 11 Dyma eu hwynebau hwynt; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff. 12 Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent. 13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân. 14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.

15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb. 16 Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl: a’r un dull oedd iddynt ill pedair; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 17 Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent. 18 Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar. 19 A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. 20 I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 21 Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 22 Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd. 23 A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall. 24 A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd. 25 Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.

26 Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. 27 Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. 28 Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.

Ezekiel’s Inaugural Vision

In my thirtieth year, in the fourth month on the fifth day, while I was among the exiles(A) by the Kebar River,(B) the heavens were opened(C) and I saw visions(D) of God.

On the fifth of the month—it was the fifth year of the exile of King Jehoiachin(E) the word of the Lord came to Ezekiel(F) the priest, the son of Buzi, by the Kebar River in the land of the Babylonians.[a] There the hand of the Lord was on him.(G)

I looked, and I saw a windstorm(H) coming out of the north(I)—an immense cloud with flashing lightning and surrounded by brilliant light. The center of the fire looked like glowing metal,(J) and in the fire was what looked like four living creatures.(K) In appearance their form was human,(L) but each of them had four faces(M) and four wings. Their legs were straight; their feet were like those of a calf and gleamed like burnished bronze.(N) Under their wings on their four sides they had human hands.(O) All four of them had faces and wings, and the wings of one touched the wings of another. Each one went straight ahead; they did not turn as they moved.(P)

10 Their faces looked like this: Each of the four had the face of a human being, and on the right side each had the face of a lion, and on the left the face of an ox; each also had the face of an eagle.(Q) 11 Such were their faces. They each had two wings(R) spreading out upward, each wing touching that of the creature on either side; and each had two other wings covering its body. 12 Each one went straight ahead. Wherever the spirit would go, they would go, without turning as they went.(S) 13 The appearance of the living creatures was like burning coals(T) of fire or like torches. Fire moved back and forth among the creatures; it was bright, and lightning(U) flashed out of it. 14 The creatures sped back and forth like flashes of lightning.(V)

15 As I looked at the living creatures,(W) I saw a wheel(X) on the ground beside each creature with its four faces. 16 This was the appearance and structure of the wheels: They sparkled like topaz,(Y) and all four looked alike. Each appeared to be made like a wheel intersecting a wheel. 17 As they moved, they would go in any one of the four directions the creatures faced; the wheels did not change direction(Z) as the creatures went. 18 Their rims were high and awesome, and all four rims were full of eyes(AA) all around.

19 When the living creatures moved, the wheels beside them moved; and when the living creatures rose from the ground, the wheels also rose. 20 Wherever the spirit would go, they would go,(AB) and the wheels would rise along with them, because the spirit of the living creatures was in the wheels. 21 When the creatures moved, they also moved; when the creatures stood still, they also stood still; and when the creatures rose from the ground, the wheels rose along with them, because the spirit of the living creatures was in the wheels.(AC)

22 Spread out above the heads of the living creatures was what looked something like a vault,(AD) sparkling like crystal, and awesome. 23 Under the vault their wings were stretched out one toward the other, and each had two wings covering its body. 24 When the creatures moved, I heard the sound of their wings, like the roar of rushing(AE) waters, like the voice(AF) of the Almighty,[b] like the tumult of an army.(AG) When they stood still, they lowered their wings.

25 Then there came a voice from above the vault over their heads as they stood with lowered wings. 26 Above the vault over their heads was what looked like a throne(AH) of lapis lazuli,(AI) and high above on the throne was a figure like that of a man.(AJ) 27 I saw that from what appeared to be his waist up he looked like glowing metal, as if full of fire, and that from there down he looked like fire; and brilliant light surrounded him.(AK) 28 Like the appearance of a rainbow(AL) in the clouds on a rainy day, so was the radiance around him.(AM)

This was the appearance of the likeness of the glory(AN) of the Lord. When I saw it, I fell facedown,(AO) and I heard the voice of one speaking.

Footnotes

  1. Ezekiel 1:3 Or Chaldeans
  2. Ezekiel 1:24 Hebrew Shaddai