Add parallel Print Page Options

Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall. Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith. Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam. Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw. Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant. 10 Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. 11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb. 12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi. 13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. 15 Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio. 16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn. 17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais. 18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. 19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion. 21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon. 22 Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.

23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod. 24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt. 25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. 26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. 27 Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.