Add parallel Print Page Options

23 Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron: A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig. Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw. Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun. A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr. Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef. Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi. Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a’th eiriau melys a golli. Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau. 10 Na symud mo’r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid: 11 Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di. 12 Gosod dy galon ar addysg, a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth. 13 Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw. 14 Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern. 15 Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha; 16 Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder. 17 Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd. 18 Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad. 19 Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd. 20 Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig. 21 Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog. 22 Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio. 23 Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall. 24 Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a’r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o’i blegid. 25 Dy dad a’th fam a lawenycha; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda. 26 Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i. 27 Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr. 28 Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion. 29 I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion? 30 I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig. 31 Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. 32 Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr. 33 Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a’th galon a draetha drawsedd. 34 Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren. 35 Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a’i ceisiaf drachefn.