Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Diarhebion 12  Beibl William Morgan

12 Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw. 2 Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe. 3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga. 4 Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef. 5 Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus. 6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt. 7 Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif. 8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir. 9 Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara. 10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon. 11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw. 12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth. 13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder. 14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo. 15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall. 16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd. 17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll. 18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth. 19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr. 20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd. 21 Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg. 22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef. 23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb. 24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged. 25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi. 26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt. 27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr. 28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Next
Diarhebion 11
Diarhebion 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences