Add parallel Print Page Options

Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. 10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. 11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. 12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. 13 Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. 14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. 15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. 16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. 17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. 18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. 19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. 20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: 21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau. 22 Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. 23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. 24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. 25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: 26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. 27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: 28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: 29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: 30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; 31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion. 32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i. 33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. 34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. 35 Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd. 36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.