Add parallel Print Page Options

27 Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw. A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt. A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn. A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw. Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw. Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.

A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw. 10 Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

11 A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd. 12 Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin. 13 A’r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.

14 A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel, 15 Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen. 16 Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen. 17 Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen. 18 Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen. 19 Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen. 20 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen. 21 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen. 22 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen. 23 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen. 24 Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen. 25 Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. 26 Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.