Add parallel Print Page Options

Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab. (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐Barnea.) A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt; Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei; O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd. Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn: Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates. Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.

A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi: 10 Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd. 11 ( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!) 12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi? 13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi. 14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist. 15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi. 16 A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef. 17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf. 18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy’r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea. 20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni. 21 Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.

22 A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt. 23 A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth. 24 A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef. 25 Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni. 26 Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw. 27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o’r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha. 28 I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a’n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno. 29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy. 30 Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid; 31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma. 32 Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw, 33 Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl. 34 A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd, 35 Diau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi; 36 Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a’i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 37 Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno. 38 Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel. 39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchenogant hi. 40 Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch. 41 Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i’r mynydd. 42 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion 43 Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i’r mynydd. 44 A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma. 45 A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi. 46 Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o’r blaen.