Add parallel Print Page Options

13 Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, A dyfod i ben o’r arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. A’r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.

Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir: Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno: Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. 10 A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 11 A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.

12 Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, 13 Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch; 14 Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg; 15 Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. 16 A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. 17 Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: 18 Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

Worshiping Other Gods

13 [a]If a prophet,(A) or one who foretells by dreams,(B) appears among you and announces to you a sign or wonder, and if the sign(C) or wonder spoken of takes place, and the prophet says, “Let us follow other gods”(D) (gods you have not known) “and let us worship them,” you must not listen to the words of that prophet(E) or dreamer.(F) The Lord your God is testing(G) you to find out whether you love(H) him with all your heart and with all your soul. It is the Lord your God you must follow,(I) and him you must revere.(J) Keep his commands and obey him; serve him and hold fast(K) to him. That prophet or dreamer must be put to death(L) for inciting rebellion against the Lord your God, who brought you out of Egypt and redeemed you from the land of slavery. That prophet or dreamer tried to turn(M) you from the way the Lord your God commanded you to follow. You must purge the evil(N) from among you.

If your very own brother, or your son or daughter, or the wife you love, or your closest friend secretly entices(O) you, saying, “Let us go and worship other gods”(P) (gods that neither you nor your ancestors have known, gods of the peoples around you, whether near or far, from one end of the land to the other), do not yield(Q) to them or listen to them. Show them no pity.(R) Do not spare them or shield them. You must certainly put them to death.(S) Your hand(T) must be the first in putting them to death, and then the hands of all the people. 10 Stone them to death, because they tried to turn you away(U) from the Lord your God, who brought you out of Egypt, out of the land of slavery. 11 Then all Israel will hear and be afraid,(V) and no one among you will do such an evil thing again.

12 If you hear it said about one of the towns the Lord your God is giving you to live in 13 that troublemakers(W) have arisen among you and have led the people of their town astray, saying, “Let us go and worship other gods” (gods you have not known), 14 then you must inquire, probe and investigate it thoroughly.(X) And if it is true and it has been proved that this detestable thing has been done among you,(Y) 15 you must certainly put to the sword all who live in that town. You must destroy it completely,[b](Z) both its people and its livestock.(AA) 16 You are to gather all the plunder of the town into the middle of the public square and completely burn the town(AB) and all its plunder as a whole burnt offering to the Lord your God.(AC) That town is to remain a ruin(AD) forever, never to be rebuilt, 17 and none of the condemned things[c] are to be found in your hands. Then the Lord will turn from his fierce anger,(AE) will show you mercy,(AF) and will have compassion(AG) on you. He will increase your numbers,(AH) as he promised(AI) on oath to your ancestors— 18 because you obey the Lord your God by keeping all his commands that I am giving you today and doing what is right(AJ) in his eyes.

Footnotes

  1. Deuteronomy 13:1 In Hebrew texts 13:1-18 is numbered 13:2-19.
  2. Deuteronomy 13:15 The Hebrew term refers to the irrevocable giving over of things or persons to the Lord, often by totally destroying them.
  3. Deuteronomy 13:17 The Hebrew term refers to the irrevocable giving over of things or persons to the Lord, often by totally destroying them.