Add parallel Print Page Options

11 Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth. A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig; Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir; A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn: A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn; A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel. Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe. Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu: Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau: 11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd; 12 Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.

13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; 14 Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew; 15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner. 16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; 17 Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.

18 Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid: 19 A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych. 20 Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth; 21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.

22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef; 23 Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi. 24 Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi. 25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych

26 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith: 27 Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw; 28 A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch 29 Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a’r felltith ar fynydd Ebal. 30 Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More? 31 Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo. 32 Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.

Love and Obey the Lord

11 Love(A) the Lord your God and keep his requirements, his decrees, his laws and his commands always.(B) Remember today that your children(C) were not the ones who saw and experienced the discipline of the Lord your God:(D) his majesty,(E) his mighty hand, his outstretched arm;(F) the signs he performed and the things he did in the heart of Egypt, both to Pharaoh king of Egypt and to his whole country;(G) what he did to the Egyptian army, to its horses and chariots,(H) how he overwhelmed them with the waters of the Red Sea[a](I) as they were pursuing you, and how the Lord brought lasting ruin on them. It was not your children who saw what he did for you in the wilderness until you arrived at this place, and what he did(J) to Dathan and Abiram, sons of Eliab the Reubenite, when the earth opened(K) its mouth right in the middle of all Israel and swallowed them up with their households, their tents and every living thing that belonged to them. But it was your own eyes that saw all these great things the Lord has done.(L)

Observe therefore all the commands(M) I am giving you today, so that you may have the strength to go in and take over the land that you are crossing the Jordan to possess,(N) and so that you may live long(O) in the land the Lord swore(P) to your ancestors to give to them and their descendants, a land flowing with milk and honey.(Q) 10 The land you are entering to take over is not like the land of Egypt,(R) from which you have come, where you planted your seed and irrigated it by foot as in a vegetable garden. 11 But the land you are crossing the Jordan to take possession of is a land of mountains and valleys(S) that drinks rain from heaven.(T) 12 It is a land the Lord your God cares for; the eyes(U) of the Lord your God are continually on it from the beginning of the year to its end.

13 So if you faithfully obey(V) the commands I am giving you today—to love(W) the Lord your God and to serve him with all your heart and with all your soul(X) 14 then I will send rain(Y) on your land in its season, both autumn and spring rains,(Z) so that you may gather in your grain, new wine and olive oil. 15 I will provide grass(AA) in the fields for your cattle, and you will eat and be satisfied.(AB)

16 Be careful, or you will be enticed to turn away and worship other gods and bow down to them.(AC) 17 Then the Lord’s anger(AD) will burn against you, and he will shut up(AE) the heavens so that it will not rain and the ground will yield no produce,(AF) and you will soon perish(AG) from the good land the Lord is giving you. 18 Fix these words of mine in your hearts and minds; tie them as symbols on your hands and bind them on your foreheads.(AH) 19 Teach them to your children,(AI) talking about them when you sit at home and when you walk along the road, when you lie down and when you get up.(AJ) 20 Write them on the doorframes of your houses and on your gates,(AK) 21 so that your days and the days of your children may be many(AL) in the land the Lord swore to give your ancestors, as many as the days that the heavens are above the earth.(AM)

22 If you carefully observe(AN) all these commands I am giving you to follow—to love(AO) the Lord your God, to walk in obedience to him and to hold fast(AP) to him— 23 then the Lord will drive out(AQ) all these nations(AR) before you, and you will dispossess nations larger and stronger than you.(AS) 24 Every place where you set your foot will be yours:(AT) Your territory will extend from the desert to Lebanon, and from the Euphrates River(AU) to the Mediterranean Sea. 25 No one will be able to stand against you. The Lord your God, as he promised you, will put the terror(AV) and fear of you on the whole land, wherever you go.(AW)

26 See, I am setting before you today a blessing(AX) and a curse(AY) 27 the blessing(AZ) if you obey the commands of the Lord your God that I am giving you today; 28 the curse if you disobey(BA) the commands of the Lord your God and turn from the way that I command you today by following other gods,(BB) which you have not known. 29 When the Lord your God has brought you into the land you are entering to possess, you are to proclaim on Mount Gerizim(BC) the blessings, and on Mount Ebal(BD) the curses.(BE) 30 As you know, these mountains are across the Jordan, westward, toward the setting sun, near the great trees of Moreh,(BF) in the territory of those Canaanites living in the Arabah in the vicinity of Gilgal.(BG) 31 You are about to cross the Jordan to enter and take possession(BH) of the land the Lord your God is giving(BI) you. When you have taken it over and are living there, 32 be sure that you obey all the decrees and laws I am setting before you today.

Footnotes

  1. Deuteronomy 11:4 Or the Sea of Reeds