Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Datguddiad 22  Beibl William Morgan

22 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen. 2 Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd: 3 A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef, 4 A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt. 5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd. 6 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys. 7 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn. 8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw. 10 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae’r amser yn agos. 11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a’r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto. 12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. 13 Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. 14 Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. 15 Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun-addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. 16 Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore eglur. 17 Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. 18 Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: 19 Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. 20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. 21 Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.

DIWEDD

I’R UNIG DDUW Y BYDDO’R GOGONIANT

Next
Datguddiad 21
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences