Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Datguddiad 2  Beibl William Morgan

2 At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; 2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: 3 A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. 4 Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. 5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. 6 Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. 7 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.

8 Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; 9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. 10 Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. 11 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12 Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; 13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. 14 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. 15 Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. 16 Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. 17 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18 Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth; 19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf. 20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. 21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. 22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd. 23 A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd. 24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall. 25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf. 26 A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd: 27 Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad. 28 Ac mi a roddaf iddo’r seren fore. 29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Next
Datguddiad 1
Datguddiad 3
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences