Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Datguddiad 11  Beibl William Morgan

11 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. 2 Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. 3 Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. 4 Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. 5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. 6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. 7 A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. 8 A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. 9 A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. 10 A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. 11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. 12 A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. 13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. 14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys. 15 A’r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16 A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18 A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear. 19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.

Next
Datguddiad 10
Datguddiad 12
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences