Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Daniel 1  Beibl William Morgan

1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni. 2 A’r Arglwydd a roddes i’w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.

3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o’r had brenhinol, ac o’r tywysogion, 4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid. 5 A’r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o’r gwin a yfai efe; felly i’w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin. 6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: 7 A’r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.

8 A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi. 9 A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda’r pen‐ystafellydd. 10 A’r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a’ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na’r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i’r brenin. 11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia, 12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i’w bwyta, a dwfr i’w yfed. 13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â’th weision. 14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd hwynt ddeg o ddyddiau. 15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin. 16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.

17 A’r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion. 18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a’u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor. 19 A’r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin. 20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a’r a ofynnai y brenin iddynt, efe a’u cafodd hwynt yn ddeg gwell na’r holl ddewiniaid a’r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef. 21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus.

Next
Eseciel 48
Daniel 2
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences