Add parallel Print Page Options

20 Yna holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr Arglwydd, i Mispa. A phenaethiaid yr holl bobl, o holl lwythau Israel, a safasant yng nghynulleidfa pobl Dduw; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf. (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn? A’r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, mi a’m gordderch, i letya. A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw. A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel. Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.

A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i’w babell, ac na throed neb ohonom i’w dŷ. Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren; 10 A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o’r mil, a mil o’r deng mil, i ddwyn lluniaeth i’r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel. 11 Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr.

12 A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi? 13 Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel: 14 Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o’r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel. 15 A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o’r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig. 16 O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu. 17 Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.

18 A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ Dduw, ac a ymgyngorasant â Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â yn gyntaf. 19 A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea. 20 A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea. 21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr. 22 A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf. 23 (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.) 24 A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd. 25 A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.

26 Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd. 27 A meibion Israel a ymgyngorasant â’r Arglwydd, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny; 28 A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr Arglwydd, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di. 29 Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea. 30 A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt. 31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel. 32 A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd. 33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea. 34 A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt. 35 A’r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf. 36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea. 37 A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf. 38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas. 39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf. 40 A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd. 41 Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt. 42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol. 43 Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul. 44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol. 45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr. 46 A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol. 47 Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis. 48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.