Add parallel Print Page Options

Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel. Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd. Canys y modd hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel.

Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel; Ceisiwch fi, a byw fyddwch. Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim. Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr, Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw: Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa. 10 Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. 11 Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. 12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. 17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd. 18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?

21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 22 Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. 25 A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? 26 Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. 27 Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr Arglwydd; Duw y lluoedd yw ei enw.