Add parallel Print Page Options

19 Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion, Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant. A’r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg. Ac efe a aeth i mewn i’r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus. 10 A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu. 11 A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul: 12 Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a’r clefydau a ymadawai â hwynt, a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.

13 Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. 14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. 15 A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? 16 A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a’u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig. 17 A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd. 18 A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd. 19 Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian. 20 Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.

21 A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd. 22 Ac wedi anfon i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.

23 A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno. 24 Canys rhyw un a’i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i’r crefftwyr; 25 Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni: 26 Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i’r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo. 27 Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a’r byd yn ei haddoli. 28 A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 29 A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul. 30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny. 40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.