Add parallel Print Page Options

23 A phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw. A’r archoffeiriad Ananeias a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau. Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a’th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i? A’r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw? A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl. A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r llall o’r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws. Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o’r ddau. A bu llefain mawr: a’r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw. 10 Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i’r milwyr fyned i waered, a’i gipio ef o’u plith hwynt, a’i ddwyn i’r castell. 11 Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. 12 A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a’u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul. 13 Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai a wnaethant y cynghrair hwn. 14 A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul. 15 Yn awr gan hynny hysbyswch gyda’r cyngor i’r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i’w ladd ef. 16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul. 17 A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo. 18 Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt. 19 A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. 21 Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti. 22 Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef. 23 Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos; 24 A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. 25 Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma: 26 Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch. 27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â’i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd. 28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt: 29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau. 30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach. 31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 32 A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell: 33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 34 Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 35 Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.