Add parallel Print Page Options

18 Ar ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Gorinth. Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o’r Ital, a’i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt. Ac, oherwydd ei fod o’r un gelfyddyd, efe a arhoes gyda hwynt, ac a weithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.) Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a’r Groegiaid. A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i’r Iddewon, mai Iesu oedd Crist. A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.

Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a’i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r synagog. A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a’i holl dŷ: a llawer o’r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw: 10 Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon. 11 Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.

12 A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a’i dygasant ef i’r frawdle, 13 Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf. 14 Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi: 15 Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn. 16 Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle. 17 A’r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a’i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny.

18 Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned. 19 Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a’u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i’r synagog, ac a ymresymodd â’r Iddewon. 20 A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe: 21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus. 22 Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia. 23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.

24 Eithr rhyw Iddew, a’i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus. 25 Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig. 26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach. 27 A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras; 28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.