Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

2 Samuel 12  Beibl William Morgan

12 A’r Arglwydd a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. 2 Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg: 3 A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytâi hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. 4 Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, i arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i paratôdd i’r gŵr a ddaethai ato. 5 A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr Arglwydd, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. 6 A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd.

7 A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: 8 Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer. 9 Paham y dirmygaist air yr Arglwydd, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a’i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon. 10 Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. 11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. 12 Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. 13 A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr Arglwydd. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. 14 Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.

15 A Nathan a aeth i’w dŷ. A’r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn. 16 Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. 17 A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytâi fara gyda hwynt. 18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? 19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. 20 Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr Arglwydd, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. 21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. 22 Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr Arglwydd wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? 23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.

24 A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r Arglwydd a’i carodd ef. 25 Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr Arglwydd.

26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. 27 A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. 28 Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. 29 A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. 30 Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. 31 Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.

Next
2 Samuel 11
2 Samuel 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences