Add parallel Print Page Options

30 A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i Jerwsalem i gynnal Pasg i Arglwydd Dduw Israel. A’r brenin a ymgynghorodd, a’i dywysogion, a’r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis. Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem. A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa. A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddyfod i gynnal y Pasg i Arglwydd Dduw Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig. Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria. Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi. Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i’r Arglwydd, a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi. Canys os dychwelwch chwi at yr Arglwydd, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr Arglwydd eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef. 10 Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a’u gwatwarasant hwy. 11 Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse, ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem. 12 Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion, yn ôl gair yr Arglwydd.

13 A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn. 14 A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth, a thaflasant hwynt i afon Cidron. 15 Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis: yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr Arglwydd. 16 A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid. 17 Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i’w sancteiddio i’r Arglwydd. 18 Oherwydd llawer o’r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un 19 A baratôdd ei galon i geisio Duw, sef Arglwydd Dduw ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr. 20 A’r Arglwydd a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y bobl. 21 A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr Arglwydd o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i’r Arglwydd. 22 A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr Arglwydd; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i Arglwydd Dduw eu tadau. 23 A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd. 24 Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant. 25 A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda. 26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.

27 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl; a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef, i’r nefoedd.