Add parallel Print Page Options

A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad.

A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd. Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn.

14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.