Add parallel Print Page Options

A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a’r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr. A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl. Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch. Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem. Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi. A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr Arglwydd, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.

Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti. A dywedodd Solomon wrth Dduw, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef. Yn awr, O Arglwydd Dduw, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear. 10 Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn? 11 A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt: 12 Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.

13 A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi gerbron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel. 14 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda’r brenin. 15 A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir. 16 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 17 Canys deuent i fyny, a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian; a march am gant a hanner; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt.