Add parallel Print Page Options

11 O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi. Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a’ch dyweddïais chwi i un gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist. Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist. Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef. Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf. Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim. A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad? Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i’ch gwasanaethu chwi. A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf. 10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia. 11 Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a’i gŵyr. 12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd. 13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist. 14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni. 15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd. 16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. 17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. 18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. 20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. 21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. 22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. 24 Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un. 25 Tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; 26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: 27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. 28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi. 29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? 30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. 31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: 33 A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.

Paul and the False Apostles

11 I hope you will put up with(A) me in a little foolishness.(B) Yes, please put up with me! I am jealous for you with a godly jealousy. I promised you to one husband,(C) to Christ, so that I might present you(D) as a pure virgin to him. But I am afraid that just as Eve was deceived by the serpent’s cunning,(E) your minds may somehow be led astray from your sincere and pure devotion to Christ. For if someone comes to you and preaches a Jesus other than the Jesus we preached,(F) or if you receive a different spirit(G) from the Spirit you received, or a different gospel(H) from the one you accepted, you put up with it(I) easily enough.

I do not think I am in the least inferior to those “super-apostles.”[a](J) I may indeed be untrained as a speaker,(K) but I do have knowledge.(L) We have made this perfectly clear to you in every way. Was it a sin(M) for me to lower myself in order to elevate you by preaching the gospel of God(N) to you free of charge?(O) I robbed other churches by receiving support from them(P) so as to serve you. And when I was with you and needed something, I was not a burden to anyone, for the brothers who came from Macedonia supplied what I needed.(Q) I have kept myself from being a burden to you(R) in any way, and will continue to do so. 10 As surely as the truth of Christ is in me,(S) nobody in the regions of Achaia(T) will stop this boasting(U) of mine. 11 Why? Because I do not love you? God knows(V) I do!(W)

12 And I will keep on doing what I am doing in order to cut the ground from under those who want an opportunity to be considered equal with us in the things they boast about. 13 For such people are false apostles,(X) deceitful(Y) workers, masquerading as apostles of Christ.(Z) 14 And no wonder, for Satan(AA) himself masquerades as an angel of light. 15 It is not surprising, then, if his servants also masquerade as servants of righteousness. Their end will be what their actions deserve.(AB)

Paul Boasts About His Sufferings

16 I repeat: Let no one take me for a fool.(AC) But if you do, then tolerate me just as you would a fool, so that I may do a little boasting. 17 In this self-confident boasting I am not talking as the Lord would,(AD) but as a fool.(AE) 18 Since many are boasting in the way the world does,(AF) I too will boast.(AG) 19 You gladly put up with(AH) fools since you are so wise!(AI) 20 In fact, you even put up with(AJ) anyone who enslaves you(AK) or exploits you or takes advantage of you or puts on airs or slaps you in the face. 21 To my shame I admit that we were too weak(AL) for that!

Whatever anyone else dares to boast about—I am speaking as a fool—I also dare to boast about.(AM) 22 Are they Hebrews? So am I.(AN) Are they Israelites? So am I.(AO) Are they Abraham’s descendants? So am I.(AP) 23 Are they servants of Christ?(AQ) (I am out of my mind to talk like this.) I am more. I have worked much harder,(AR) been in prison more frequently,(AS) been flogged more severely,(AT) and been exposed to death again and again.(AU) 24 Five times I received from the Jews the forty lashes(AV) minus one. 25 Three times I was beaten with rods,(AW) once I was pelted with stones,(AX) three times I was shipwrecked,(AY) I spent a night and a day in the open sea, 26 I have been constantly on the move. I have been in danger from rivers, in danger from bandits, in danger from my fellow Jews,(AZ) in danger from Gentiles; in danger in the city,(BA) in danger in the country, in danger at sea; and in danger from false believers.(BB) 27 I have labored and toiled(BC) and have often gone without sleep; I have known hunger and thirst and have often gone without food;(BD) I have been cold and naked. 28 Besides everything else, I face daily the pressure of my concern for all the churches.(BE) 29 Who is weak, and I do not feel weak?(BF) Who is led into sin,(BG) and I do not inwardly burn?

30 If I must boast, I will boast(BH) of the things that show my weakness.(BI) 31 The God and Father of the Lord Jesus, who is to be praised forever,(BJ) knows(BK) that I am not lying. 32 In Damascus the governor under King Aretas had the city of the Damascenes guarded in order to arrest me.(BL) 33 But I was lowered in a basket from a window in the wall and slipped through his hands.(BM)

Footnotes

  1. 2 Corinthians 11:5 Or to the most eminent apostles