Add parallel Print Page Options

22 A Dafydd a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno. Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr. A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi. Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr amddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;) Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd; Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?

Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub. 10 Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r Arglwydd; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo. 11 Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenin. 12 A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd. 13 A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw? 14 Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di? 15 Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer. 16 A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.

17 A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd. 18 A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain. 19 Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.

20 Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd. 21 Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd. 22 A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di. 23 Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.