Add parallel Print Page Options

18 Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.

A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd. A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.

10 Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. 11 A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef.

12 A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. 13 Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. 14 A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r Arglwydd oedd gydag ef. 15 A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef. 16 Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.

17 A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) 18 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin? 19 Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig. 20 A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo. 21 A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.

22 A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin. 23 A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael? 24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. 25 A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. 26 A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto. 27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

28 A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. 29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth. 30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.