Add parallel Print Page Options

20 Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a’i dinistriodd hi. A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas. A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt â llifiau, ac ag ogau heyrn, ac â bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.

Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt. A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr. Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef. Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.