Add parallel Print Page Options

19 Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw; a’i fab a deyrnasodd yn ei le ef. A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti? Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith. A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.

Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria‐maacha ac o Soba. A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilltu yn y maes. 10 A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid. 11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon. 12 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gynorthwyaf dithau. 13 Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. 14 Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. 15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.

16 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt. 17 A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef. 18 Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu. 19 A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant â Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach.