Add parallel Print Page Options

13 Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda, trwy air yr Arglwydd, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu. Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd. A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost. 10 Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.

11 Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin. 12 A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda. 13 Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno. 14 Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi. 15 Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara. 16 Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon. 17 Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi. 18 Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. 19 Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20 A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd: 21 Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, 22 Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.

23 Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd. 24 Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain. 25 Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi. 26 A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, efe a ddywedodd, Gŵr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr Arglwydd: am hynny yr Arglwydd a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i lladdodd ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef. 27 Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a’i cyfrwyasant. 28 Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn. 29 A’r proffwyd a gymerth gelain gŵr Duw, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac a’i dug yn ei hôl. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu ef. 30 Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd! 31 Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef. 32 Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.

33 Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. 34 A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.