Add parallel Print Page Options

28 A’r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr. A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad.

A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem: a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa. A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr. A phan ymgynghorodd Saul â’r Arglwydd, nid atebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.

Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw? 10 A Saul a dyngodd wrthi hi i’r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn. 11 Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fyny. 12 A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul. 13 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear. 14 Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.

15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn. 16 Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i’r Arglwydd gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti? 17 Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o’th law di, ac a’i rhoddes hi i’th gymydog, i Dafydd: 18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn. 19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi: a’r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid. 20 Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o’i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na’r holl noson honno.

21 A’r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; a hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf: 22 Yn awr gan hynny gwrando dithau, atolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan elych i’th ffordd. 23 Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely. 24 Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a’i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a’i pobodd yn gri: 25 A hi a’i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno.