Add parallel Print Page Options

Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd. Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab. 10 Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. 11 A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. 12 Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. 13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. 14 A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. 15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo. 16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono. 17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth. 18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef. 19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. 20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. 21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.

Faith in the Incarnate Son of God

Everyone who believes(A) that Jesus is the Christ(B) is born of God,(C) and everyone who loves the father loves his child as well.(D) This is how we know(E) that we love the children of God:(F) by loving God and carrying out his commands. In fact, this is love for God: to keep his commands.(G) And his commands are not burdensome,(H) for everyone born of God(I) overcomes(J) the world. This is the victory that has overcome the world, even our faith. Who is it that overcomes the world? Only the one who believes that Jesus is the Son of God.(K)

This is the one who came by water and blood(L)—Jesus Christ. He did not come by water only, but by water and blood. And it is the Spirit who testifies, because the Spirit is the truth.(M) For there are three(N) that testify: the[a] Spirit, the water and the blood; and the three are in agreement. We accept human testimony,(O) but God’s testimony is greater because it is the testimony of God,(P) which he has given about his Son. 10 Whoever believes in the Son of God accepts this testimony.(Q) Whoever does not believe God has made him out to be a liar,(R) because they have not believed the testimony God has given about his Son. 11 And this is the testimony: God has given us eternal life,(S) and this life is in his Son.(T) 12 Whoever has the Son has life; whoever does not have the Son of God does not have life.(U)

Concluding Affirmations

13 I write these things to you who believe in the name of the Son of God(V) so that you may know that you have eternal life.(W) 14 This is the confidence(X) we have in approaching God: that if we ask anything according to his will, he hears us.(Y) 15 And if we know that he hears us—whatever we ask—we know(Z) that we have what we asked of him.(AA)

16 If you see any brother or sister commit a sin that does not lead to death, you should pray and God will give them life.(AB) I refer to those whose sin does not lead to death. There is a sin that leads to death.(AC) I am not saying that you should pray about that.(AD) 17 All wrongdoing is sin,(AE) and there is sin that does not lead to death.(AF)

18 We know that anyone born of God(AG) does not continue to sin; the One who was born of God keeps them safe, and the evil one(AH) cannot harm them.(AI) 19 We know that we are children of God,(AJ) and that the whole world is under the control of the evil one.(AK) 20 We know also that the Son of God has come(AL) and has given us understanding,(AM) so that we may know him who is true.(AN) And we are in him who is true by being in his Son Jesus Christ. He is the true God and eternal life.(AO)

21 Dear children,(AP) keep yourselves from idols.(AQ)

Footnotes

  1. 1 John 5:8 Late manuscripts of the Vulgate testify in heaven: the Father, the Word and the Holy Spirit, and these three are one. And there are three that testify on earth: the (not found in any Greek manuscript before the fourteenth century)