Add parallel Print Page Options

A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur; Yr Arglwydd a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel. Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ yma? A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.

10 Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, 11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea. 12 A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef. 13 Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a’u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn. 14 A Hiram a anfonodd i’r brenin chwech ugain talent o aur.

15 A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser. 16 Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a’i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a’i rhoddasai hi yn anrheg i’w ferch, gwraig Solomon. 17 A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf, 18 A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad, 19 A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a’r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth. 20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel; 21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn. 22 Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch. 23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.

24 A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i’w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.

25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i’r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.

26 A’r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom. 27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon. 28 A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a’u dygasant at y brenin Solomon.

The Lord Appears to Solomon(A)

When Solomon had finished(B) building the temple of the Lord and the royal palace, and had achieved all he had desired to do, the Lord appeared(C) to him a second time, as he had appeared to him at Gibeon. The Lord said to him:

“I have heard(D) the prayer and plea you have made before me; I have consecrated this temple, which you have built, by putting my Name(E) there forever. My eyes(F) and my heart will always be there.

“As for you, if you walk before me faithfully with integrity of heart(G) and uprightness, as David(H) your father did, and do all I command and observe my decrees and laws,(I) I will establish(J) your royal throne over Israel forever, as I promised David your father when I said, ‘You shall never fail(K) to have a successor on the throne of Israel.’

“But if you[a] or your descendants turn away(L) from me and do not observe the commands and decrees I have given you[b] and go off to serve other gods(M) and worship them, then I will cut off Israel from the land(N) I have given them and will reject this temple I have consecrated for my Name.(O) Israel will then become a byword(P) and an object of ridicule(Q) among all peoples. This temple will become a heap of rubble. All[c] who pass by will be appalled(R) and will scoff and say, ‘Why has the Lord done such a thing to this land and to this temple?’(S) People will answer,(T) ‘Because they have forsaken(U) the Lord their God, who brought their ancestors out of Egypt, and have embraced other gods, worshiping and serving them—that is why the Lord brought all this disaster(V) on them.’”

Solomon’s Other Activities(W)

10 At the end of twenty years, during which Solomon built these two buildings—the temple of the Lord and the royal palace— 11 King Solomon gave twenty towns in Galilee to Hiram king of Tyre, because Hiram had supplied him with all the cedar and juniper and gold(X) he wanted. 12 But when Hiram went from Tyre to see the towns that Solomon had given him, he was not pleased with them. 13 “What kind of towns are these you have given me, my brother?” he asked. And he called them the Land of Kabul,[d](Y) a name they have to this day. 14 Now Hiram had sent to the king 120 talents[e] of gold.(Z)

15 Here is the account of the forced labor King Solomon conscripted(AA) to build the Lord’s temple, his own palace, the terraces,[f](AB) the wall of Jerusalem, and Hazor,(AC) Megiddo and Gezer.(AD) 16 (Pharaoh king of Egypt had attacked and captured Gezer. He had set it on fire. He killed its Canaanite inhabitants and then gave it as a wedding gift to his daughter,(AE) Solomon’s wife. 17 And Solomon rebuilt Gezer.) He built up Lower Beth Horon,(AF) 18 Baalath,(AG) and Tadmor[g] in the desert, within his land, 19 as well as all his store cities(AH) and the towns for his chariots(AI) and for his horses[h]—whatever he desired to build in Jerusalem, in Lebanon and throughout all the territory he ruled.

20 There were still people left from the Amorites, Hittites,(AJ) Perizzites, Hivites and Jebusites(AK) (these peoples were not Israelites). 21 Solomon conscripted the descendants(AL) of all these peoples remaining in the land—whom the Israelites could not exterminate[i](AM)—to serve as slave labor,(AN) as it is to this day. 22 But Solomon did not make slaves(AO) of any of the Israelites; they were his fighting men, his government officials, his officers, his captains, and the commanders of his chariots and charioteers. 23 They were also the chief officials(AP) in charge of Solomon’s projects—550 officials supervising those who did the work.

24 After Pharaoh’s daughter(AQ) had come up from the City of David to the palace Solomon had built for her, he constructed the terraces.(AR)

25 Three(AS) times a year Solomon sacrificed burnt offerings and fellowship offerings on the altar he had built for the Lord, burning incense before the Lord along with them, and so fulfilled the temple obligations.

26 King Solomon also built ships(AT) at Ezion Geber,(AU) which is near Elath(AV) in Edom, on the shore of the Red Sea.[j] 27 And Hiram sent his men—sailors(AW) who knew the sea—to serve in the fleet with Solomon’s men. 28 They sailed to Ophir(AX) and brought back 420 talents[k] of gold,(AY) which they delivered to King Solomon.

Footnotes

  1. 1 Kings 9:6 The Hebrew is plural.
  2. 1 Kings 9:6 The Hebrew is plural.
  3. 1 Kings 9:8 See some Septuagint manuscripts, Old Latin, Syriac, Arabic and Targum; Hebrew And though this temple is now imposing, all
  4. 1 Kings 9:13 Kabul sounds like the Hebrew for good-for-nothing.
  5. 1 Kings 9:14 That is, about 4 1/2 tons or about 4 metric tons
  6. 1 Kings 9:15 Or the Millo; also in verse 24
  7. 1 Kings 9:18 The Hebrew may also be read Tamar.
  8. 1 Kings 9:19 Or charioteers
  9. 1 Kings 9:21 The Hebrew term refers to the irrevocable giving over of things or persons to the Lord, often by totally destroying them.
  10. 1 Kings 9:26 Or the Sea of Reeds
  11. 1 Kings 9:28 That is, about 16 tons or about 14 metric tons