Add parallel Print Page Options

Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion. A holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin Solomon, ar yr ŵyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y seithfed mis. A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r offeiriaid a godasant yr arch i fyny. A hwy a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, a phabell y cyfarfod, a holl lestri’r cysegr y rhai oedd yn y babell, a’r offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny. A’r brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd. Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i’w lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid. Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch; a’r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a’i barrau oddi arnodd. A’r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o’r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn. Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. 10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan o’r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd, 11 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.

12 Yna y dywedodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch. 13 Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo. 14 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll. 15 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a’i cwblhaodd â’i law, gan ddywedyd, 16 Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o’r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel. 17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: 19 Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i’m henw i. 20 A’r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel. 21 A mi a osodais yno le i’r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd, yr hwn a gyfamododd efe â’n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.

22 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 23 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon; 24 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â’th enau, a chwblheaist â’th law, megis heddiw y mae. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron. 26 Ac yn awr, O Dduw Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad. 27 Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i! 28 Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di: 29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. 30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o’r nefoedd; a phan glywych, maddau.

31 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn: 32 Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.

33 Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil â thi yn y tŷ hwn: 34 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist i’w tadau hwynt.

35 Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt: 36 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.

37 Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo; 38 Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua’r tŷ hwn: 39 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau; gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;) 40 Fel y’th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i’n tadau ni.

41 Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o’th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw; 42 (Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua’r tŷ hwn: 43 Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.

44 Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant ar yr Arglwydd tua ffordd y ddinas a ddewisaist ti, a’r tŷ yr hwn a adeiledais i’th enw di: 45 Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

46 Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a’u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos; 47 Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; 48 A dychwelyd atat ti â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion a’u caethgludasant hwynt, a gweddïo arnat ti tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddewisaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di: 49 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a’u deisyfiad, a gwna farn iddynt, 50 A maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn, a’u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i’th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a’u caethgludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy: 51 Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o’r Aifft, o ganol y ffwrn haearn: 52 Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti. 53 Canys ti a’u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o’r Aifft, O Arglwydd Dduw. 54 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a’r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd. 55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd, 56 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. 57 Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: 58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni. 59 A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â’i was, a barn â’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos: 60 Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall. 61 Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.

62 A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd. 63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd. 64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd. 65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg. 66 A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i’w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.

The Ark Brought to the Temple(A)

Then King Solomon summoned into his presence at Jerusalem the elders of Israel, all the heads of the tribes and the chiefs(B) of the Israelite families, to bring up the ark(C) of the Lord’s covenant from Zion, the City of David.(D) All the Israelites came together to King Solomon at the time of the festival(E) in the month of Ethanim, the seventh month.(F)

When all the elders of Israel had arrived, the priests(G) took up the ark, and they brought up the ark of the Lord and the tent of meeting(H) and all the sacred furnishings in it. The priests and Levites(I) carried them up, and King Solomon and the entire assembly of Israel that had gathered about him were before the ark, sacrificing(J) so many sheep and cattle that they could not be recorded or counted.

The priests then brought the ark of the Lord’s covenant(K) to its place in the inner sanctuary of the temple, the Most Holy Place,(L) and put it beneath the wings of the cherubim.(M) The cherubim spread their wings over the place of the ark and overshadowed(N) the ark and its carrying poles. These poles were so long that their ends could be seen from the Holy Place in front of the inner sanctuary, but not from outside the Holy Place; and they are still there today.(O) There was nothing in the ark except the two stone tablets(P) that Moses had placed in it at Horeb, where the Lord made a covenant with the Israelites after they came out of Egypt.

10 When the priests withdrew from the Holy Place, the cloud(Q) filled the temple of the Lord. 11 And the priests could not perform their service(R) because of the cloud, for the glory(S) of the Lord filled his temple.

12 Then Solomon said, “The Lord has said that he would dwell in a dark cloud;(T) 13 I have indeed built a magnificent temple for you, a place for you to dwell(U) forever.”

14 While the whole assembly of Israel was standing there, the king turned around and blessed(V) them. 15 Then he said:

“Praise be to the Lord,(W) the God of Israel, who with his own hand has fulfilled what he promised with his own mouth to my father David. For he said, 16 ‘Since the day I brought my people Israel out of Egypt,(X) I have not chosen a city in any tribe of Israel to have a temple built so that my Name(Y) might be there, but I have chosen(Z) David(AA) to rule my people Israel.’

17 “My father David had it in his heart(AB) to build a temple(AC) for the Name of the Lord, the God of Israel. 18 But the Lord said to my father David, ‘You did well to have it in your heart to build a temple for my Name. 19 Nevertheless, you(AD) are not the one to build the temple, but your son, your own flesh and blood—he is the one who will build the temple for my Name.’(AE)

20 “The Lord has kept the promise he made: I have succeeded(AF) David my father and now I sit on the throne of Israel, just as the Lord promised, and I have built(AG) the temple for the Name of the Lord, the God of Israel. 21 I have provided a place there for the ark, in which is the covenant of the Lord that he made with our ancestors when he brought them out of Egypt.”

Solomon’s Prayer of Dedication(AH)

22 Then Solomon stood before the altar of the Lord in front of the whole assembly of Israel, spread out his hands(AI) toward heaven 23 and said:

Lord, the God of Israel, there is no God like(AJ) you in heaven above or on earth below—you who keep your covenant of love(AK) with your servants who continue wholeheartedly in your way. 24 You have kept your promise to your servant David my father; with your mouth you have promised and with your hand you have fulfilled it—as it is today.

25 “Now Lord, the God of Israel, keep for your servant David my father the promises(AL) you made to him when you said, ‘You shall never fail to have a successor to sit before me on the throne of Israel, if only your descendants are careful in all they do to walk before me faithfully as you have done.’ 26 And now, God of Israel, let your word that you promised(AM) your servant David my father come true.

27 “But will God really dwell(AN) on earth? The heavens, even the highest heaven,(AO) cannot contain(AP) you. How much less this temple I have built! 28 Yet give attention to your servant’s prayer and his plea for mercy, Lord my God. Hear the cry and the prayer that your servant is praying in your presence this day. 29 May your eyes be open(AQ) toward(AR) this temple night and day, this place of which you said, ‘My Name(AS) shall be there,’ so that you will hear the prayer your servant prays toward this place. 30 Hear the supplication of your servant and of your people Israel when they pray(AT) toward this place. Hear(AU) from heaven, your dwelling place, and when you hear, forgive.(AV)

31 “When anyone wrongs their neighbor and is required to take an oath and they come and swear the oath(AW) before your altar in this temple, 32 then hear from heaven and act. Judge between your servants, condemning the guilty by bringing down on their heads what they have done, and vindicating the innocent by treating them in accordance with their innocence.(AX)

33 “When your people Israel have been defeated(AY) by an enemy because they have sinned(AZ) against you, and when they turn back to you and give praise to your name, praying and making supplication to you in this temple,(BA) 34 then hear from heaven and forgive the sin of your people Israel and bring them back to the land you gave to their ancestors.

35 “When the heavens are shut up and there is no rain(BB) because your people have sinned(BC) against you, and when they pray toward this place and give praise to your name and turn from their sin because you have afflicted them, 36 then hear from heaven and forgive the sin of your servants, your people Israel. Teach(BD) them the right way(BE) to live, and send rain(BF) on the land you gave your people for an inheritance.

37 “When famine(BG) or plague(BH) comes to the land, or blight(BI) or mildew, locusts or grasshoppers,(BJ) or when an enemy besieges them in any of their cities, whatever disaster or disease may come, 38 and when a prayer or plea is made by anyone among your people Israel—being aware of the afflictions of their own hearts, and spreading out their hands(BK) toward this temple— 39 then hear(BL) from heaven, your dwelling place. Forgive(BM) and act; deal with everyone according to all they do, since you know(BN) their hearts (for you alone know every human heart), 40 so that they will fear(BO) you all the time they live in the land(BP) you gave our ancestors.

41 “As for the foreigner(BQ) who does not belong to your people Israel but has come from a distant land because of your name— 42 for they will hear(BR) of your great name and your mighty hand(BS) and your outstretched arm—when they come and pray toward this temple, 43 then hear from heaven, your dwelling place. Do whatever the foreigner asks of you, so that all the peoples of the earth may know(BT) your name and fear(BU) you, as do your own people Israel, and may know that this house I have built bears your Name.(BV)

44 “When your people go to war against their enemies, wherever you send them, and when they pray(BW) to the Lord toward the city you have chosen and the temple I have built for your Name, 45 then hear from heaven their prayer and their plea, and uphold their cause.(BX)

46 “When they sin against you—for there is no one who does not sin(BY)—and you become angry with them and give them over to their enemies, who take them captive(BZ) to their own lands, far away or near; 47 and if they have a change of heart in the land where they are held captive, and repent and plead(CA) with you in the land of their captors and say, ‘We have sinned, we have done wrong, we have acted wickedly’;(CB) 48 and if they turn back(CC) to you with all their heart(CD) and soul in the land of their enemies who took them captive, and pray(CE) to you toward the land you gave their ancestors, toward the city you have chosen and the temple(CF) I have built for your Name;(CG) 49 then from heaven, your dwelling place, hear their prayer and their plea, and uphold their cause. 50 And forgive your people, who have sinned against you; forgive all the offenses they have committed against you, and cause their captors to show them mercy;(CH) 51 for they are your people and your inheritance,(CI) whom you brought out of Egypt, out of that iron-smelting furnace.(CJ)

52 “May your eyes be open(CK) to your servant’s plea and to the plea of your people Israel, and may you listen to them whenever they cry out to you.(CL) 53 For you singled them out from all the nations of the world to be your own inheritance,(CM) just as you declared through your servant Moses when you, Sovereign Lord, brought our ancestors out of Egypt.”

54 When Solomon had finished all these prayers and supplications to the Lord, he rose from before the altar of the Lord, where he had been kneeling with his hands spread out toward heaven. 55 He stood and blessed(CN) the whole assembly of Israel in a loud voice, saying:

56 “Praise be to the Lord, who has given rest(CO) to his people Israel just as he promised. Not one word has failed of all the good promises(CP) he gave through his servant Moses. 57 May the Lord our God be with us as he was with our ancestors; may he never leave us nor forsake(CQ) us. 58 May he turn our hearts(CR) to him, to walk in obedience to him and keep the commands, decrees and laws he gave our ancestors. 59 And may these words of mine, which I have prayed before the Lord, be near to the Lord our God day and night, that he may uphold the cause of his servant and the cause of his people Israel according to each day’s need, 60 so that all the peoples(CS) of the earth may know that the Lord is God and that there is no other.(CT) 61 And may your hearts(CU) be fully committed(CV) to the Lord our God, to live by his decrees and obey his commands, as at this time.”

The Dedication of the Temple(CW)

62 Then the king and all Israel with him offered sacrifices(CX) before the Lord. 63 Solomon offered a sacrifice of fellowship offerings to the Lord: twenty-two thousand cattle and a hundred and twenty thousand sheep and goats. So the king and all the Israelites dedicated(CY) the temple of the Lord.

64 On that same day the king consecrated the middle part of the courtyard in front of the temple of the Lord, and there he offered burnt offerings, grain offerings and the fat(CZ) of the fellowship offerings, because the bronze altar(DA) that stood before the Lord was too small to hold the burnt offerings, the grain offerings and the fat of the fellowship offerings.(DB)

65 So Solomon observed the festival(DC) at that time, and all Israel with him—a vast assembly, people from Lebo Hamath(DD) to the Wadi of Egypt.(DE) They celebrated it before the Lord our God for seven days and seven days more, fourteen days in all. 66 On the following day he sent the people away. They blessed the king and then went home, joyful and glad in heart for all the good(DF) things the Lord had done for his servant David and his people Israel.