Add parallel Print Page Options

11 Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau; O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid. A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon. Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i’w duwiau.

A’r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith, 10 Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd. 11 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfamod a’m deddfau a orchmynnais i ti; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di. 12 Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi. 13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais.

14 A’r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe. 15 Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom; 16 (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:) 17 Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto. 18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo. 19 A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines. 20 A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a’i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo. 21 A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda’i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i’m gwlad fy hun. 22 A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i’th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd, Dim; eithr gan ollwng gollwng fi.

23 A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd: 24 Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus. 25 Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.

26 A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. 27 Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad. 28 A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. 29 A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. 30 Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau. 31 Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: 32 (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) 33 Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. 34 Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i: 35 Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth. 36 Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. 37 A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel. 38 Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. 39 A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. 40 Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.

41 A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? 42 A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeugain mlynedd. 43 A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Solomon’s Wives

11 King Solomon, however, loved many foreign women(A) besides Pharaoh’s daughter—Moabites, Ammonites,(B) Edomites, Sidonians and Hittites. They were from nations about which the Lord had told the Israelites, “You must not intermarry(C) with them, because they will surely turn your hearts after their gods.” Nevertheless, Solomon held fast to them in love. He had seven hundred wives of royal birth and three hundred concubines,(D) and his wives led him astray.(E) As Solomon grew old, his wives turned his heart after other gods,(F) and his heart was not fully devoted(G) to the Lord his God, as the heart of David his father had been. He followed Ashtoreth(H) the goddess of the Sidonians, and Molek(I) the detestable god of the Ammonites. So Solomon did evil(J) in the eyes of the Lord; he did not follow the Lord completely, as David his father had done.

On a hill east(K) of Jerusalem, Solomon built a high place for Chemosh(L) the detestable god of Moab, and for Molek(M) the detestable god of the Ammonites. He did the same for all his foreign wives, who burned incense and offered sacrifices to their gods.

The Lord became angry with Solomon because his heart had turned away from the Lord, the God of Israel, who had appeared(N) to him twice. 10 Although he had forbidden Solomon to follow other gods,(O) Solomon did not keep the Lord’s command.(P) 11 So the Lord said to Solomon, “Since this is your attitude and you have not kept my covenant and my decrees,(Q) which I commanded you, I will most certainly tear(R) the kingdom away from you and give it to one of your subordinates. 12 Nevertheless, for the sake of David(S) your father, I will not do it during your lifetime. I will tear it out of the hand of your son. 13 Yet I will not tear the whole kingdom from him, but will give him one tribe(T) for the sake(U) of David my servant and for the sake of Jerusalem, which I have chosen.”(V)

Solomon’s Adversaries

14 Then the Lord raised up against Solomon an adversary,(W) Hadad the Edomite, from the royal line of Edom. 15 Earlier when David was fighting with Edom, Joab the commander of the army, who had gone up to bury the dead, had struck down all the men in Edom.(X) 16 Joab and all the Israelites stayed there for six months, until they had destroyed all the men in Edom. 17 But Hadad, still only a boy, fled to Egypt with some Edomite officials who had served his father. 18 They set out from Midian and went to Paran.(Y) Then taking people from Paran with them, they went to Egypt, to Pharaoh king of Egypt, who gave Hadad a house and land and provided him with food.

19 Pharaoh was so pleased with Hadad that he gave him a sister of his own wife, Queen Tahpenes, in marriage. 20 The sister of Tahpenes bore him a son named Genubath, whom Tahpenes brought up in the royal palace. There Genubath lived with Pharaoh’s own children.

21 While he was in Egypt, Hadad heard that David rested with his ancestors and that Joab the commander of the army was also dead. Then Hadad said to Pharaoh, “Let me go, that I may return to my own country.”

22 “What have you lacked here that you want to go back to your own country?” Pharaoh asked.

“Nothing,” Hadad replied, “but do let me go!”

23 And God raised up against Solomon another adversary,(Z) Rezon son of Eliada, who had fled from his master, Hadadezer(AA) king of Zobah. 24 When David destroyed Zobah’s army, Rezon gathered a band of men around him and became their leader; they went to Damascus,(AB) where they settled and took control. 25 Rezon was Israel’s adversary as long as Solomon lived, adding to the trouble caused by Hadad. So Rezon ruled in Aram(AC) and was hostile toward Israel.

Jeroboam Rebels Against Solomon

26 Also, Jeroboam son of Nebat rebelled(AD) against the king. He was one of Solomon’s officials, an Ephraimite from Zeredah, and his mother was a widow named Zeruah.

27 Here is the account of how he rebelled against the king: Solomon had built the terraces[a](AE) and had filled in the gap in the wall of the city of David his father. 28 Now Jeroboam was a man of standing,(AF) and when Solomon saw how well(AG) the young man did his work, he put him in charge of the whole labor force of the tribes of Joseph.

29 About that time Jeroboam was going out of Jerusalem, and Ahijah(AH) the prophet of Shiloh met him on the way, wearing a new cloak. The two of them were alone out in the country, 30 and Ahijah took hold of the new cloak he was wearing and tore(AI) it into twelve pieces. 31 Then he said to Jeroboam, “Take ten pieces for yourself, for this is what the Lord, the God of Israel, says: ‘See, I am going to tear(AJ) the kingdom out of Solomon’s hand and give you ten tribes. 32 But for the sake(AK) of my servant David and the city of Jerusalem, which I have chosen out of all the tribes of Israel, he will have one tribe. 33 I will do this because they have[b] forsaken me and worshiped(AL) Ashtoreth the goddess of the Sidonians, Chemosh the god of the Moabites, and Molek the god of the Ammonites, and have not walked(AM) in obedience to me, nor done what is right in my eyes, nor kept my decrees(AN) and laws as David, Solomon’s father, did.

34 “‘But I will not take the whole kingdom out of Solomon’s hand; I have made him ruler all the days of his life for the sake of David my servant, whom I chose and who obeyed my commands and decrees. 35 I will take the kingdom from his son’s hands and give you ten tribes. 36 I will give one tribe(AO) to his son so that David my servant may always have a lamp(AP) before me in Jerusalem, the city where I chose to put my Name. 37 However, as for you, I will take you, and you will rule(AQ) over all that your heart desires;(AR) you will be king over Israel. 38 If you do whatever I command you and walk in obedience to me and do what is right(AS) in my eyes by obeying my decrees(AT) and commands, as David my servant did, I will be with you. I will build you a dynasty(AU) as enduring as the one I built for David and will give Israel to you. 39 I will humble David’s descendants because of this, but not forever.’”

40 Solomon tried to kill Jeroboam, but Jeroboam fled(AV) to Egypt, to Shishak(AW) the king, and stayed there until Solomon’s death.

Solomon’s Death(AX)

41 As for the other events of Solomon’s reign—all he did and the wisdom he displayed—are they not written in the book of the annals of Solomon? 42 Solomon reigned in Jerusalem over all Israel forty years. 43 Then he rested with his ancestors and was buried in the city of David his father. And Rehoboam(AY) his son succeeded him as king.

Footnotes

  1. 1 Kings 11:27 Or the Millo
  2. 1 Kings 11:33 Hebrew; Septuagint, Vulgate and Syriac because he has