Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 12  Beibl William Morgan

12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. 2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. 3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti. 4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran. 5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.

6 Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw. 7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo. 8 Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a Hai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd. 9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.

10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad. 11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: 12 A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw. 13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.

14 A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi. 15 A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo. 16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod. 17 A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram. 18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi? 19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith. 20 A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.

Next
Genesis 11
Genesis 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences