Add parallel Print Page Options

94 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria. Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion. Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu? Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd? Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant. Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant. Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn. Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch? Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? 10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn? 11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt. 12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: 13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol. 14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth. 15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl. 16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd? 17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd. 18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd. 19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid. 20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? 21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. 22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded. 23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.