Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.

Clodforaf di, O Arglwydd, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau. Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf. Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di. Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol. Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt. Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn. Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb. Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod. 10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient. 11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef. 12 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol. 13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau: 14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth. 15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun. 16 Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela. 17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw. 18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth. 19 Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di. 20 Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.