Add parallel Print Page Options

Maschil Ethan yr Esrahiad.

89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela. A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint. Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn? Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a’th wirionedd o’th amgylch? Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi. 10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion. 11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder. 12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw. 13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. 14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb. 15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin. 19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth. 27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear. 28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo. 29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd. 30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau; 31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant: 32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau. 33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd. 34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau. 35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd. 36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i. 37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela. 38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog. 39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr. 40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau. 41 Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion. 42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion. 43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel. 44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr. 45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela. 46 Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân? 47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer? 48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela. 49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd? 50 Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion; 51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog. 52 Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.